![]() |
Grwp Aberystwyth Gwyrddach
|
TUDALENNAU ERAILL | IN ENGLISH |
|
YNGLYN Â GAG
1. Amcanion
Mudiad sydd ddim yn gwneud elw yw’r Grwp, gyda'r amcanion canlynol:
- Hybu
cadwraeth a rheolaeth mannau gwyrddion o fewn cyrraedd a choedydd ar
strydoedd yn ac o amgylch Aberystwyth, yn fwynderau gwerthfawr i’r
gymuned.
- Cyrraedd ei amcanion drwy hybu a gweithredu arolygon, craffu ar
geisiadau cynllunio a datblygiadau perthnasol eraill, trefnu grwpiau i
weithio’n wirfoddol, casglu a rhannu gwybodaeth, cynhyrchu deunydd
dehongli, codi arian, cynnig cynghorion a gwneud argymhellion, a
chydlynu â mudiadau sy’n berchen ar neu sydd â chyfrifoldeb am fannau
gwyrddion yr ardal.
- Rhaid bod y Grwp yn an-wleidyddol, yn yr ystyr y bydd yn osgoi
gwleidydda Pleidiol. Ni fydd y Grwp yn ceisio gorfodi ei argymhellion ar
y gymuned leol. Yn bennaf, mudiad ymchwiliol ac un sy'n cynhgori ydyw,
ond os caiff gefnogaeth resymol gan y gymuned, gall gynrychioli’r
amcanion hynny a ddatganwyd ganddo.
Os ceisiwch rhagor o wybodaeth,
darllennwch ein cyfansodiad.
2. Gweithgareddau Er mwyn gwybod am ein gweithgareddau, darllenwch ein Cylchlythyr (gweler tudalen "Newyddion"). Hefyd ein pamffled, ar gael ar bapur neu yma mewn fformat jpg: Pamffled yn Saesneg neu Pamffled yn Gymraeg. Dyma 15 o sleidiau Powerpoint sy'n dangos rhai o'n gweithgareddau hyd yma. Er mwyn eu gweld heb orfod sgrolio, dylai fod sgrîn eich cyfrifiadur gynnwys 1280x800 picsel neu fwy.
|
![]() |