Sut i ymaelodi:
Does dim tanysgrifiad. Gallwch
lawrlwytho ein ffurflen ymaelodi
mewn
fformat PDF neu
mewn
fformat Word, ei hargraffu ar bapur,
ei llenwi a'i phostio.
Ceir copïau o'r daflen yng Nghanolfan Twristaeth y dref a Llyfrgell
y Dref. Gallwch hefyd argraffu copi eich hunan trwy'r
ddolen hon,
ond bydd yn llai o faint os nad oes peiriant argraffu gyda chi sy'n
defnyddio papur A3.
Peidiwch poeni os ydy'r testun Gymraeg wyneb i waered ar eich sgrIn
chi: bydd popeth yn iawn ar ôl gwneud copi ar bapur
Cynllun Reoli Mynwent Aberystwyth. GAG
wnaeth y cynllyn hwn yn 2010. Un elfen bwysig: mae rhannau o'r
fynwent yn cael eu gadael heb dorri'r glaswellt tan yn hwyr yn yr
haf. Fel canlyniad, mae'r fynwent yn lloches fendigedig i fywyd
gwyllt Ceredigion.
Arolwg Gwyfynod (2015) o Fynwent Tref Aberystwyth.
Gwnaeth
GAG yr arolwg hwn gyda chymorth aelodau Grwp Gwyfynod Ceredigion, yn
dilyn y Cynllun Rheoli'r Fynwent a ysgrifennodd GAG ac a fabwysiadwyd
gan Gyngor Ceredigion. Bydd yr arolwg yn darparu sail i fesur y
gwelliannau fydd yn dod yn sgil y cynllun rheoli newydd, ac felly yn
cefnogi gwaith y Cyngor Sir.
Aberystwyth Municipal Cemetery - Nature-friendly Management Plan
(2010)
produced by GAG (yn Saesneg). One important component of it is
that parts of the cemetery are left unmown until late summer,
allowing wildlife to flourish. As a result, the cemetery is now an
outstanding wildlife haven within Ceredigion.
Aberystwyth Municipal Cemetery - Moth Survey (2015) (yn
Saesneg).
GAG carried out this survey with the help of members of the
Ceredigion Moth Group. This is a follow up to the Cemetery Management
Plan, written by GAG and adopted by Ceredigion CCC. It gives a base
line reference with the intention of demonstrating the benefits of the
new management regime to wildlife and so supporting CCC action.
Aberystwyth Municipal Cemetery - Invertebrate Report (2021) (yn
Saesneg).
A well-illustrated and comprehensive report produced by George Ryley
Entomology including bees, beetles, bugs and butterflies, with
management advice on how to keep
the cemetery rich in wildlife.
CRYNHOAD:
Mae gwyfynod yn ffynonellau
bwyd
hanfodol i lawer iawn o anifeiliaid eraill, hefyd maent yn peillio
llawer o flodau. Mae dros 2000
o fathau
yn bridio ym Mhrydain
ond mae niferoedd llawer ohynynt wedi lleihau mewn ffordd ddramatig,
ac o’r herwydd mae pryderon am ein diffyg gwybodaeth am ble y ceir
llawer o’r mathau yma. Yn ystod 2016, defnyddiwyd trap goleuni yn
rheolaidd ar un safle tu fewn i’r SSSI Craigyfulfran a Clarach, i’r
gogledd o Aberystwyth, er mwyn egluro pa mathau o wyfynod sydd yn
byw ar y safle hwn. Cofnodwyd 145 math o wyfynod, gan gynnwys pump
sydd yn brin ym Mhrydain. Ceir sawl math
ohonynt
ar fariandiroedd gwelltog yn unig, sydd yn dangos pwysigrwydd y
safle am gadw bioamrywiaeth. Mae’r adroddiad yn cynnwys lluniau rhai
o’r gwyfynod, argymhellion byr ar
sut i reoli’r safle er lles bywyd
gwyll, a thrafodaeth ar yr effeithiau llesol fyddai’n dilyn lleihau
halogiad goleuni yn y safle ac o gwmpas.
Rhestr Bryoffytau. Rydym yn ddiolchgar i Sue Rubinstein (gynt o Pen-y-Graig)
am anfon
restr ddefnyddiol o fwsoglau (mosses) a llysiau'r afu (liverworts)
yn ardal Parc Natur Penglais.
www.wlgf.org
Wildlife Gardening Forum (Mae'r Fforwm yn gweithio
i helpu mwy o bobl i werthfawrogi pa mor bwysig mae gerddi i fywyd
gwyllt. Gobeithio bydd hwn yn helpu pobl i reiolu eu gerddi er lles
bywyd gwyllt, ymhlith pethau eraill.
www.buglife.org.uk
Buglife - Helpwch Buglife i achub y planed! Llawer o wybodaeth ar
bryfetach ac ati.
Sut i ddad-ddofi tir ein trefi, gan y Zoological Society of London.
Noddi coed: I hyrwyddo'r cynllun Coed Aber, mae croeso i unrhywun noddi coeden mewn man addas o gwmpas y dref –fel mae rhai wedi gwneud yn barod. Am fanylion,cysylltwch
â
Jon Hadlow (jonh@ceredigion.gov.uk)neu gyda GAG
(aber-gag@outlook.com).