![]() |
Grwp Aberystwyth Gwyrddach
|
TUDALENNAU ERAILL | IN ENGLISH |
|
Mannau gwyrdd yn Aberystwyth[Cliciwch yma i weld map o Aberystwyth]
Mae Parc Natur Penglais yn edrych lawr ar y dref o'r gogledd. Gwarchodfa Natur Leol ydyw, o dan ofal Cyngor Ceredigion, gyda chymorth gwirfoddolwyr. Hen chwareli o'r 18fed a'r 19fed ganrifoedd sydd yn y rhan uchaf, ond mae coed a phlanhigion wedi tyfu drostynt erbyn hyn.
Mae hen luniau o Rodfa'r Gogledd yn dangos coed mawr, ond mae rheini wedi diflannu erbyn hyn. Mae eu dilynwyr ifanc yn tyfu, ond mae rhai coed (ar y dde yn y llun) wedi marw. Mae GAG yn awyddus i weld coed eraill yn cael eu plannu yn eu lle.
|
Yn Stryd Portland, mae coed yn tyfu rhwng y llefydd parcio. Tua chanrif yn ôl, stablau, yna "roller-skating rink", yna sinema oedd y gerddi ar y chwith. Erbyn hyn, mae glaswellt, gwelyau blodau a choed ceirios wedi cymryd eu lle.
Plas Crug. Enw hen blas oedd yn sefyll ar y pen sydd ar y parc bach yma. Mae pobl wedi cerdded yma ers y deunawfed ganrif. Mae Plas Crug yn le da am wylio adar (gweler Cylchlythyr 7), a mae mwswgl prin iawn yn tyfu yno (gweler Cylchlythyr 4). Mae gwirfoddolwyr GAG yn clirio'r nant yn reolaidd (gweler Cylchlythr 2).
Mae Mynwent Ffordd Llanbadarn yn bwysig o'r safbwynt cymdeithasol a hanesyddol; mae hi hefyd yn fan werdd â chyfoeth o blanhigion ynddi (gweler Cylchlythyr 5). Mae aelodau GAG wedi paratoi Cynllun Reolaeth ar gyfer y Cyngor Sir, sy'n ystyried pob un o'r ffactorau hyn.
![]() |