Mae'r arolygon eu hunan i gyd yn Saesneg. Ymddiheurwn am nad oes
fersiynau Cymraeg ar gael.
Mynwent Aberystwyth
Mynwent Dref Aberystwyth - Adroddiad ar Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn (2021).
A well-illustrated and comprehensive report produced by George Ryley
Entomology including bees, beetles, bugs and butterflies, with
management advice on how to keep
the cemetery rich in wildlife.
Arolwg Gwyfynod (2015) o Fynwent Dref Aberystwyth.
Gwnaeth
GAG yr arolwg hwn gyda chymorth aelodau Grwp Gwyfynod Ceredigion, yn
dilyn y Cynllun Rheoli'r Fynwent a ysgrifennodd GAG ac a fabwysiadwyd
gan Gyngor Ceredigion. Bydd yr arolwg yn darparu sail i fesur y
gwelliannau fydd yn dod yn sgil y cynllun rheoli newydd, ac felly yn
cefnogi gwaith y Cyngor Sir.
Cynllun Reoli Mynwent Aberystwyth (2010) gan
aelodau GAG. Un elfen bwysig: mae rhannau o'r
fynwent yn cael eu gadael heb dorri'r glaswellt tan yn hwyr yn yr
haf. Fel canlyniad, mae'r fynwent yn lloches fendigedig i fywyd
gwyllt Ceredigion.
CRYNHOAD:
Mae gwyfynod yn ffynonellau
bwyd
hanfodol i lawer iawn o anifeiliaid eraill, hefyd maent yn peillio
llawer o flodau. Mae dros 2000
o fathau
yn bridio ym Mhrydain
ond mae niferoedd llawer ohynynt wedi lleihau mewn ffordd ddramatig,
ac o’r herwydd mae pryderon am ein diffyg gwybodaeth am ble y ceir
llawer o’r mathau yma. Yn ystod 2016, defnyddiwyd trap goleuni yn
rheolaidd ar un safle tu fewn i’r SSSI Craigyfulfran a Clarach, i’r
gogledd o Aberystwyth, er mwyn egluro pa mathau o wyfynod sydd yn
byw ar y safle hwn. Cofnodwyd 145 math o wyfynod, gan gynnwys pump
sydd yn brin ym Mhrydain. Ceir sawl math
ohonynt
ar fariandiroedd gwelltog yn unig, sydd yn dangos pwysigrwydd y
safle am gadw bioamrywiaeth. Mae’r adroddiad yn cynnwys lluniau rhai
o’r gwyfynod, argymhellion byr ar
sut i reoli’r safle er lles bywyd
gwyll, a thrafodaeth ar yr effeithiau llesol fyddai’n dilyn lleihau
halogiad goleuni yn y safle ac o gwmpas.
Rhestr Bryoffytau. Rydym yn ddiolchgar i Sue Rubinstein (gynt o Pen-y-Graig)
am anfon
restr ddefnyddiol o fwsoglau (mosses) a llysiau'r afu (liverworts)
yn ardal Parc Natur Penglais.